Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn bartneriaeth sy’n cefnogi gweithgaredd twf economaidd strategol ar draws Gogledd-orllewin Lloegr, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri, a gydnabyddir fel un isranbarth economaidd gyda phoblogaeth yn agos at 1 miliwn. Mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy yn lleoliad canolog yn y DU.
Mae pump prif ganolfan yn rhan o Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy sydd yn cyd-fynd â rolau economaidd eu gilydd er eu bod naill ochr i ffin genedlaethol Cymru – Lloegr. Mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnig gwasgariad arbennig o economïau trefol, diwydiannol, preswyl a gwledig sydd yn weithredol gysylltiedig.
Gydag economi amrywiol cadarn (sydd yn cynnwys sector awyrofod, modurol, niwclear, ynni adnewyddadwy, cynhyrchion fferyllol, cemegion, gwasanaethau ariannol, bwyd, peirianneg, TGCh, twristiaeth a manwerthu), mae’n ardal ar gyfer buddsoddiad tymor hir yn darparu cyfleoedd i gwmnïau ddatblygu o fewn rhanbarth economaidd sy’n tyfu sydd hefyd yn cynnwys tir a phobl fedrus ar gael.