Yn anffodus oherwydd pandemig Covid-19, mae amserlen Brecwast Busnes MDA ar gyfer 2020 wedi newid.
Yn ystod y cyfnod yma, bydd MDA yn parhau i gefnogi’r gymuned fusnes trawsffiniol trwy gynnal fersiynau ‘rhithiol’ o Frecwast Busnes MDA ar-lein.
Bydd y digwyddiad rhithiol cyntaf yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 30 Mehefin am hanner dydd. Mae’r digwyddiad yn cael ei noddi gan Picturehouse Films ac mae dros 150 o fusnesau trawsffiniol wedi cofrestru.
Mae’r ail ddigwyddiad rhithiol wedi cael ei drefnu at ddiwedd mis Awst 2020. Os hoffech chi gymryd rhan, gofyn am slot i gyflwyno neu noddi’r digwyddiad nesaf, e-bostiwch mda@cheshirewestandchester.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth. Bydd pob digwyddiad yn y dyfodol yn cael eu hadolygu ym mis Medi ac yn dibynnu ar ganllawiau’r llywodraeth, byddwn yn gwneud trefniadau i ailddechrau digwyddiadau Brecwast Busnes Rhwydwaith Arloesi MDA. Byddwn yn diweddaru’r dudalen we gydag unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.