Ym mis Medi 2018, roedd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi noddi Symposiwm Sgiliau ac Arloesi Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy mewn cydweithrediad â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caer. Roedd dros 70 o gynrychiolwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus yn bresennol.
Roedd y siaradwyr yn cynnwys: neges fideo gan Ken Skates AC; Sasha Davies, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru; Iwan Trefor Jones, Bwrdd Uchelgais Economaidd/Bargen Dwf Gogledd Cymru; Christine Gaskell, Cadeirydd Partneriaeth Menter Leol Swydd Caer a Warrington; Ian Lucas, AS Llafur Wrecsam; yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr.
Roedd y trafodaethau yn adlewyrchu eu profiad yn gweithio yn ein rhanbarth trawsffiniol a’r heriau sgiliau a wynebir gan gynnwys sut y gallwn gynnal a denu graddedigion medrus a sut y gall prifysgolion a diwydiant weithio gyda’i gilydd i wneud ein rhanbarth hyd yn oed yn gryfach. Panel Diwydiant yn cynnwys Pŵer Niwclear Horizon, Unilever, Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer, Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Grŵp Denis Ferranti.