Ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru, Sir Gaer a Chilgwri – comisiynwyd y Fframwaith yn 2010 gan bartneriaeth o awdurdodau lleol ac asiantaethau amgylcheddol gyda chyfrifoldeb dros oruchwylio cynllunio a chyflwyno Isadeiledd Gwyrdd (GI) ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, Sir Gaer a Chilgwri. Hwyluswyd y gwaith gan Gynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy (MDA).
Wedi’i gyhoeddi ym mis Ionawr 2011, ystyriodd y Fframwaith amgylcheddau naturiol Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, Gorllewin Sir Gaer a Chaer, Dwyrain Sir Gaer a Chilgwri, gan amlinellu gweledigaeth o sut all amgylchedd naturiol iach gynorthwyo cynnal twf economaidd a chymunedau ffyniannus.
Mae’r fframweithiau ar gael i’w lawrlwytho:
- Fframwaith Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru, Sir Gaer a Chilgwri
- Atodiadau Fframwaith Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru, Sir Gaer a Chilgwri
- Crynodeb Gweithredol Fframwaith Isadeiledd Gwyrdd ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru, Sir Gaer a Chilgwri
Mae’r Fframwaith wedi darparu sail i gynhyrchu Cynlluniau Gweithredu ar Isadeiledd Gwyrdd fel a ganlyn:
- Cynllun Gweithredu ar Isadeiledd Gwyrdd Parc Arfordir Sir y Fflint – mae’r Cynllun Gweithredu’n ffurfio elfen bwysig o ddatblygu Parc Arfordir Sir y Fflint.
- Cynllun Gweithredu Dyfrdwy Isaf – bydd Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer yn defnyddio’r Cynllun Gweithredu fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu’r Cynllun Lleol.
- Cynllun Gweithredu Ellesmere Port a Chaer – bydd Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer yn defnyddio’r Cynllun Gweithredu fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer datblygu’r Cynllun Lleol.
- Cynllun Gweithredu Crewe – bydd y Cynllun Gweithredu ar Isadeiledd Gwyrdd Crewe yn cael ei ddefnyddio fel dogfen eiriol ar gyfer partneriaid sy’n ymwneud ag adfywio’r dref, yn arbennig mewn trafodaethau gyda datblygwyr i sicrhau datblygiad o safon. Mae’r atodiadau ar gael hefyd.
- Cynllun Gweithredu ar Amgylchedd Gwyrdd y Rhyl – mae’r cynllun gweithredu’n ffurfio elfen bwysig yn natblygiad y Rhyl. Mae’r atodiadau ar gael hefyd.
- Dyfrdwy Ganolog – ar y gweill
Cafodd y gwaith ar ddatblygu’r Fframwaith a Chynlluniau Gweithredu ei gydnabod ledled y wlad:
“Cynllunio’n naturiol – Cynllunio gofodol gyda natur mewn golwg: yn y DU a thu hwnt” –cyhoeddwyd ar y cyd rhwng RSPB, RTPI a CIEEM ym mis Gorffennaf 2013, gan ddefnyddio’r Fframwaith fel un o’i astudiaethau achos o arferion da.
“Isadeiledd Gwyrdd: agwedd gyfannol at ddefnydd tir” – Datganiad Safbwynt a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Tirwedd ym mis Mawrth 2013, gan dynnu sylw at Gynlluniau Gweithredu ar Isadeiledd Gwyrdd Parc Arfordir Sir y Fflint a Crewe.
Agoriad swyddogol Lôn Las Neston i Lannau Dyfrdwy
Agorwyd llwybr y Lôn Las newydd sy’n cysylltu Cymru a Lloegr rhwng Neston a Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy’n swyddogol ym mis Gorffennaf 2013. Gwnaed gwaith ar y llwybr ar draws y ffin ar y cyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer gyda chymorth ariannol o £250,000 gan Sustrans a £300,000 gan Lywodraeth Cymru, wedi’i glustnodi trwy Taith, Consortiwm Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru ar y pryd.
Mae’r llwybr wedi bod yn llwyddiant gyda cherddwyr, pobl mewn cadeiriau olwynion a beicwyr ers ei gwblhau ym mis Ebrill, gan ddenu 6,000 o ddefnyddwyr yn ei fis cyntaf. Agorwyd y llwybr yn swyddogol gan John Griffiths, Gweinidog dros Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr ar y llwybr bordiau ar draws y corstir.
Os hoffech roi sylwadau neu gyfranogi, cysylltwch ag MDA fel a ganlyn:
Ffôn: 0151 356 6564 / 6567
E-bost: mda@cheshirewestandchester.gov.uk
Lleoliad: Mersey Dee Alliance, Cheshire West and Chester Council, 2nd Floor, Council Offices, 4 Civic Way, Ellesmere Port, CH65 0BE