Rhannu buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol

Daeth Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy (MDA) i fodolaeth trwy gydnabod buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cyffredin ar draws ardal Gorllewin Sir Gaer, Cilgwri a Gogledd-ddwyrain Cymru. Ffurfiwyd Partneriaeth newydd ym mis Ebrill 2007, rhwng awdurdodau lleol Cilgwri, Dinas Caer, Ellesmere Port a Neston, Sir Ddinbych, Sir Gaer, Sir y Fflint, Llywodraeth Cynulliad Cymru,

Mae ardal Gogledd-ddwyrain Cymru / Gorllewin Sir Gaer / Cilgwri’n unigryw yn y DU fel cylch economaidd o bwys gyda ffin genedlaethol yn rhedeg drwyddo. Yn yr ardal mae amrywiaeth mawr o fusnesau ac economi metro yn ogystal â chefn gwlad helaeth a llain gymudo arfordirol ac mae’n gyfrannwr sylweddol at economi’r DU.

Mae’r bartneriaeth yn gweld bod yr ardal yn cynrychioli isranbarth economaidd unigol gyda phoblogaeth o ryw 890,000 o bobtu i ffin genedlaethol. Mae partneriaid yn cytuno i gydweithio ar fuddiannau strategol cyffredin i gynnal dyfodol economaidd yr ardal, a hyrwyddo agwedd gydlynol at faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Mae MDA yn rhoi sylw i faterion strategol, trawsffiniol sy’n effeithio ar yr ardal gyfan rhag ailadrodd gweithgaredd lleol ac er mwyn sicrhau creu gwerth ychwanegol.

Cysylltu â Ni

Mersey Dee Alliance
c/o Melissa Parsons
Cheshire West and Chester Council
c/o Economic Development and Investment
2nd Floor,
Council Offices,
4 Civic Way,
Ellesmere Port,
CH65 0BE

 

 




Tel:
0151 356 6564
Email us

Bridge over the River Dee

Gweledigaeth

Bydd isranbarth Gogledd-ddwyrain Cymru a Gorllewin Sir Gaer yn ardal sy’n gallu cystadlu’n llwyddiannus yn y farchnad ranbarthol, genedlaethol a byd-eang.

Bydd nodweddion arbennig yr ardal yn cael eu hybu er budd yr isranbarth a rhanbarth dinesig Lerpwl. Bydd cryfderau canolfannau unigol yn cael eu cydnabod a’u cyfoethogi o fewn terfynau amgylcheddol.

Mae’r dymuniad i hybu twf economaidd yn ymblethu gyda’r angen i wireddu cynwysoldeb cymdeithasol a hwyluso diogelu a chyfoethogi’r amgylchedd er mwyn taro nod datblygu cynaliadwy yn y pen draw.

Mae hynodrwydd yr amgylchedd lleol yn cael ei werthfawrogi a’i warchod, ac mae ansawdd bywyd trigolion yr isranbarth yn hollbwysig. (Strategaeth Ofodol Isranbarthol Gogledd-ddwyrain Cymru – Gorllewin Sir Gaer)