Daeth Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy (MDA) i fodolaeth
trwy gydnabod buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol
cyffredin ar draws ardal Gorllewin Sir Gaer, Cilgwri a
Gogledd-ddwyrain Cymru.
Ffurfiwyd Partneriaeth newydd ym mis Ebrill
2007, sydd bellach yn cynnwys awdurdodau lleol Cilgwri, Gorllewin
Sir Gaer a Chaer, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam, a
Llywodraeth Cynulliad Cymru, Awdurdod Datblygu Rhanbarthol
Gogledd-orllewin Lloegr a Merseytravel, a adeiladwyd ar sylfaen
gref o gydweithio ers y 1990au.
Mae ardal Gogledd-ddwyrain Cymru / Gorllewin
Sir Gaer / Cilgwri’n unigryw yn y DU fel ardal economaidd o bwys
gyda ffin genedlaethol yn rhedeg drwyddi. Yn yr ardal mae
amrywiaeth mawr o fusnesau ac economi metro yn ogystal â chefn
gwlad helaeth a llain gymudo arfordirol ac mae’n gyfrannwr
sylweddol at economi’r DU.
Mae’r bartneriaeth yn gweld bod yr ardal yn
cynrychioli isranbarth economaidd unigol gyda phoblogaeth sy’n agos
at filiwn o bobtu i ffin genedlaethol.
Mae partneriaid yn cytuno i gydweithio ar
fuddiannau strategol cyffredin i gynnal dyfodol economaidd yr
ardal, a hyrwyddo agwedd gydlynol at faterion cymdeithasol,
economaidd ac amgylcheddol.
Mae MDA yn rhoi sylw i faterion strategol, trawsffiniol sy’n
effeithio ar yr ardal gyfan rhag ailadrodd gweithgaredd lleol ac er
mwyn sicrhau creu gwerth ychwanegol.