Amdanom ni
Partneriaeth yw Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy (MDA) sy’n hybu gweithgarwch economaidd strategol ar draws y ffin rhwng Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr. Canolbwynt ei ranbarth daearyddol yw Gogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Sir Gaer a Chilgwri.
Y partneriaid strategol canlynol sy’n ffurfio Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy:
- Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Caer
- Cyngor Sir Ddinbych
- Cyngor Sir y Fflint
- Merseytravel
- Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Cyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Cilgwri
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
- NWDA (Awdurdod Datblygu Rhanbarthol Gogledd-orllewin Lloegr)
- TAITH - Consortiwm Cludiant Rhanbarthol Gogledd-ddwyrain Cymru
Cyngor Gorllewin Sir Gaer a Caer yw Corff Atebol y Bartneriaeth ac.
Cael gwybod mwy amdanom.
Tarddiad y Bartneriaeth
Mae cynllun busnes MDA ar gael i’w lawrlwytho yma. Cyfnod y cynllun cyfredol yw 2008-11 ac mae’n canolbwyntio ar themâu cludiant a hygyrchedd, safleoedd allweddol, cyflogaeth a sgiliau, cynaliadwyedd, yr amgylchedd a marchnata lle.