Prosiectau
Rhwydwaith Arloesi MDA
Bydd MDA yn lansio Rhwydwaith yn hydref 2010 ar gyfer busnesau gwybodaeth ac arloesol, gyda’r bwriad o hybu rhyngweithiad a thwf busnes ar hyd a lled ardal Gogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Sir Gaer a Chilgwri.
Bydd y prosiect yn creu rhwydwaith rheoledig ond anffurfiol o gwmnïau gwybodaeth a’r rhai sy’n cefnogi twf busnesau o’r fath, fel cynghorwyr, buddsoddwyr, cynghorwyr cyfreithiol, arbenigwyr diwydiant a phrifysgol, asiantaethau’r llywodraeth, ac ati. Bydd yr achlysuron yn cynnwys brecwastau busnes anffurfiol ynghyd â seminarau arbennig achlysurol, a bydd yn cael ei lansio mewn Diwrnod Arloesi a Thechnoleg yn Airbus ar 14eg Hydref. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar y tab rhwydwaith arloesi.
Make It In Manufacturing
Trefnwyd tri achlysur her menter ysgolion ‘Make It’ yn yr hydref ar hyd a lled yr ardal. Mae ymgyrch Make It y Sefydliad Gweithgynhyrchu’n rhaglen o weithgareddau cysylltiedig addysg-busnes a luniwyd i gefnogi’r cwricwlwm ac i greu cysylltiadau rhwng ysgolion a phartneriaid gweithgynhyrchu. Digwyddiadau undydd yw Heriau Menters Make It sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr gyda lliaws o bartneriaid diwydiant yn gefn iddynt, gan gynnwys UPM, SHARP, BAE Systems, Jaguar Land Rover a Robert Wiseman Dairies. Lluniwyd pob achlysur i herio amgyffred negyddol presennol o’r sector ac, yn hytrach, meant yn hybu delwedd ddynamig, hwyliog o’r lliaws cyfleoedd gyrfaol y gall gweithgynhyrchu eu cynnig. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma.
Gall ysgolion uwchradd ar hyd a lled Gogledd-ddwyrain Cymru yn ogystal â Gorllewin Sir Gaer a Chaer a Chilgwri wneud cais i anfon timau o wyth disgybl blwyddyn 9 i’r digwyddiadau canlynol:
SHARP Make It Enterprising Challenge
Dydd Mercher 3 Tachwedd 2010, 9.30am-3pm, Wrecsam
Urenco Make It Enterprising Challenge
Dydd Iau 11 Tachwedd 2010, 9.30am-3pm, Ellesmere Port
UPM Shotton Make It Enterprising Challenge
Dydd Iau 2 Rhagfyr 2010, 9.30am-3pm, Sir y Fflint
Fframwaith Isadeiledd Gwyrdd
Cynhaliwyd achlysur ymgynghori ar 27ain Medi 2010 yn y Pencadlys, Caer, ar symud tuag at Fframwaith Isadeiledd Gwyrdd a Chynlluniau Gweithredu ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru a Sir Gaer. Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gynghorau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam ynghyd â Chynghorau Gorllewin Sir Gaer a Chaer, Cilgwri a Dwyrain Sir Gaer, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Natural England.
Mae cynllunio ar gyfer isadeiledd gwyrdd yn helpu nodi, amddiffyn, gwarchod, cyfoethogi ac ymestyn amgylcheddau naturiol ac adeiledig iach, i roi sylw i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ein cymunedau a sicrhau bod datblygiadau adeiledig yn cynnwys mannau agored defnyddiadwy sy’n diwallu anghenion cenedlaethau yfory.