Airbus Beluga

Rhwydwaith Arloesi

Yn hydref 2010 mae MDA a phartneriaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn sefydlu Rhwydwaith Arloesi sy’n gweithredu ar draws goror Gogledd Cymru / Gogledd-orllewin Lloegr. Parth masnachol cydlynol ac ardal teithio i’r gwaith ar draws ffiniau yw’r ardal hon yn cysylltu â chyfleoedd masnachol rhanbarth dinas ehangach. Partneriaid allweddol yw Siambr Gorllewin Sir Gaer a Gogledd Cymru, Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Caer.

Bydd y prosiect yn creu rhwydwaith rheoledig ond anffurfiol o gwmnïau gwybodaeth a’r rhai sy’n cefnogi twf busnesau o’r fath, fel cynghorwyr, buddsoddwyr, cynghorwyr cyfreithiol, arbenigwyr diwydiant a phrifysgol, asiantaethau’r llywodraeth, ac ati. Ei amcan yw hybu arloesi a rhwydweithio er mwyn manteisio ar ac ymestyn cryfderau arbennig yr ardal.

Nid oes unrhyw feini prawf llym o ran y gynulleidfa darged. Fodd bynnag, diffiniad o economi gwybodaeth yw ‘un seiliedig ar gyfrannu, cymhwyso a manteisio’n llwyddiannus ar y wybodaeth gyfoes fwyaf perthnasol (gan gynnwys sgiliau ac arloesi) i ddatblygu nwyddau a gwasanaethau’. Bydd y rhwydwaith yn berthnasol i BBaCh a chyrff cefnogi busnes yn y sectorau canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): ynni, ynni adnewyddadwy, carbon isel, iechyd, gwyddorau biolegol, gweithgynhyrchu a deunyddiau datblygedig, diwydiannau digidol a chreadigol ac ati.

Bydd yn cael ei farchnata i’r busnesau neu gyrff cefnogi hynny sydd ar ororau Gogledd Cymru / Gogledd-orllewin Lloegr neu sydd eisiau gweithio gyda busnesau yno (yn gyffredinol Gogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Sir Gaer, Cilgwri).

Yn y pen draw nod y rhwydwaith yw gwella perfformiad busnesau, trwy gael busnesau i siarad â’i gilydd a bod yn ymwybodol o fentrau a chyfleoedd rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol; helpu busnesau o’r fath wynebu heriau economaidd a masnachol, a pharatoi ar gyfer neu barhau twf. Bydd hefyd yn creu sianel i aelodau ymwneud â rhwydweithiau arloesi rhanbarthol a chenedlaethol perthnasol eraill fel y Rhwydweithiau Trosglwyddo Gwybodaeth cenedlaethol sy’n cael eu rhedeg gan y Bwrdd Strategaeth Technoleg, a rhai partneriaid ac aelodau.

Bydd y prosiect yn cael ei weithredu trwy nifer bach o ‘ganolbwyntiau arloesi’ yn y cylch ac yn cynnal achlysuron rhagbrofi fydd yn cynnwys brecwastau busnes anffurfiol ynghyd â seminarau arbennig achlysurol.

Bydd yn cael ei lansio yn ystod Diwrnod Arloesi a Thechnoleg Wythnos Fusnes Sir y Fflint yn Airbus ar 14eg Hydref 2010, http://www.flintshirebusinessweek.co.uk/